Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw’n “cymryd o ddifri” eu targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ar ôl beirniadaeth.

Maen nhw’n wynebu haeriad gan un o aelodau pwyllgor iaith a diwylliant y Senedd y bydd “bron yn amhosib” bwrw’r targed nad oes digon o gyrsiau ar gael i gwrdd â’r galw.

Daw’r feirniadaeth ar ôl i Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, gyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor.

Fe ddywedodd nad oes modd cyrraedd y twf “anferth” mewn darpariaeth yr oedden nhw wedi gobeithio amdano.